Canolfan Ddigwyddiadau
ac Academi Hwylio - Crynodeb (2)
Angorfeydd Ymwelwyr
Roedd yr achos a gyflwynwyd gennym ar gyfer angorfeydd ymwelwyr yn
cynnwys y pwyntiau canlynol:-
- Dylai pob marina a phorthladd mawr fod â darpariaeth
ddigonol i fadau hwylio sy’n
ymweld.
- Dylai fod cyfleusterau angori digonol ar gael i
ymwelwyr
- Dylem annog twristiaeth forol yn rhan o gadwyn o borthladdoedd
â hafanau diogel a phwyntiau aros ar gyfer badau hwylio sy’n
morio.
- Mae’n rhaid i Bwllheli ddarparu’r cyfleuster hwn i lenwi bwlch
yng nghadwyn y porthladdoedd ar hyd yr arfordir.
- Mae’r gadwyn hon yn fregus o hyd o’i chymharu ag arfordir
Iwerddon.
- Mae marchnad fawr o fadau hwylio Ffrengig sy’n ymweld ag arfordir
dwyreiniol Iwerddon ac arfordir gorllewinol yr Alban,
- Mae marchnad newydd o fadau hwylio Sgandinafaidd sydd bellach yn
morio ar hyd arfordir gorllewinol yr Alban ac Iwerddon.
- Mae rhyw 2500 o gychod yn ardal Bae Dulyn ac fe allai rhai
ohonynt ddod i Bwllheli pe byddai angorfeydd sicr iddynt – maent yn
disgwyl safon sy’n seiliedig ar eu profiad eu hunain adref.
- Mae’n cymryd diwrnod i hwylio i Fae Dulyn.
- Bydd The Celtic Raid,
ffenomenon hwylio poblogaidd sy’n tyfu, yma eto yn
2007.
- Gyda gwell cyfleusterau fe allem obeithio gweld mwy yn dod yn y
blynyddoedd nesaf gyda chyfranogiad Badau Hwylio Ffrengig (dywedir
wrthym)!
- Nid yw’r busnes gwerthfawr hwn ar gael ar hyn o bryd i Bwllheli
a’r Clwb gan ei fod yn wybodaeth gyffredinol ac yn cael ei adrodd nad
oes unrhyw angorfeydd gwag un pwrpas i ymwelwyr. Bydd angen marchnata
effeithiol i oresgyn y canfyddiad hwn.
- Gwnaethom yr achos y byddai argaeledd angorfeydd un pwrpas i
ymwelwyr yn cael effaith fuddiol ar yr economi
leol.
- Byddai darparwyr llety a bwyd yn yr ardal ar eu
hennill.
- Adroddwyd y bydd angorfa sydd ar gael i ymwelwyr yn cynhyrchu mwy
o wariant i mewn i’r economi (gan ffactor o 3) nag angorfa a osodir yn
barhaol.
Digwyddiadau
- Cyflwynwyd yr achos canlynol gennym i amddiffyn ac ehangu’r
busnes presennol sy’n cael ei redeg gan y clwb hwylio.
- Buom yn dangos bod y busnes hwn yn cael effaith bwysig ar yr
economi leol.
- Roeddem yn ymwybodol bod y busnes hwn o bwysigrwydd sylfaenol i’r
clwb.
- Cydnabyddir bod Bae Tremadog yn lleoliad hwylio cystadleuol o’r
radd
flaenaf.
- Pwllheli oedd y man a ddewiswyd yn lleoliad hwylio Olympaidd ar
gyfer cynnig Olympaidd Manceinion.
- Mae Pwllheli mewn safle strategol rhagorol ar gyfer digwyddiadau
hwylio yn y DU ac ystyrir ei fod yn un o’r tri lleoliad sy’n gallu
cynnal digwyddiadau badau bach mawr yn y
DU.
- Y tair canolfan ddigwyddiadau fawr yw:-
- Weymouth, Lloegr,
- Largs, yr Alban,
- Pwllheli, Cymru.
- Cynhaliodd Clwb Hwylio Pwllheli 12 digwyddiad mawr yn 2005 a
gyfrannodd 23,880 o nosweithiau gwely neu £1.836m at yr economi
leol.
- Cyfrannodd y digwyddiadau yn 2006 £1.5m at yr economi
leol.
- Gyda’r digwyddiadau yn 2007, bydd digwyddiadau Clwb Hwylio
Pwllheli wedi cyfrannu £5.1 miliwn at yr economi leol mewn tair
blynedd.
- Cynhaliodd Clwb Hwylio Pwllheli Bencampwriaeth Genedlaethol
Optimist Rhyngwladol y DU yn 2005 gyda 340 o gychod yn cyfranogi a
olygai mai hwn yw’r digwyddiad un fflyd fwyaf ym
Mhrydain.
- Cynhaliodd Pwllheli y digwyddiad eto'r llynedd gyda fflyd dros
360 o
gychod.
- Roedd hyn yn ymestyn cyfleusterau’r clwb i’r eithaf.
- Defnyddiwyd pontŵn y Clwb i gadw 50 o gychod pwmpiadwy anhyblyg
(RIB) achub a chefnogi.
- Roedd rhaid cludo personél ar draws i’r pontŵn - ac nid yw
hyn yn
ddelfrydol.
- Mae’r Dosbarth Optimist yn bwriadu dychwelyd yn 2008 ac maent yn
bwriadu cynyddu maint ei fflyd i 400 o gychod erbyn 2010!
- Mae’r Clwb yn derbyn bod rhaid i’r cyfleusterau dyfu i fodloni’r
galw hwn.
- Mae’r calendr ar gyfer 2007 yn llenwi ac mae’r Clwb wedi llwyddo
i ddenu digwyddiad a chystadleuwyr Pencampwriaeth Cadét
Rhyngwladol y Byd mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Hwylio
Frenhinol.
- Amcangyfrifir bod y gwariant i mewn i’r economi leol o’r
digwyddiad hwn yn unig yn £1.2 miliwn.
- Buddsoddiad sylweddol yn:
- Weymouth, (buddsoddiad o £7 miliwn) sy’n ychwanegu rhyw
£6 miliwn y flwyddyn at yr economi leol.
- Bae Caerdydd a chanolfannau digwyddiadau hwylio eraill gan
gynnwys
- Torbay (£21 miliwn)
- Mae angen buddsoddiad i gynnal ein cyfran marchnad bresennol –
heb sôn am gael cynnydd mewn cyfran marchnad.
- Mae angen inni gryfhau gallu’r Clwb i gynnal regatas mawr a
pharhau twf y Ganolfan Rhagoriaeth
Hwylio.
- I gynnal y digwyddiadau hyn mae angen angorfeydd i’r nifer
gynyddol o gychod cefnogi.
- Mae angen cyfleusterau lansio ac adfer hefyd ar gyfer y cychod
cefnogi
hyn.
- Mae angen inni fuddsoddi i atgyfnerthu’r defnydd presennol a
chynyddol o Bwllheli fel lleoliad ar gyfer hyfforddiant o’r radd
flaenaf gan:
- Aelodau Sgwad Olympaidd, sgwadiau cenedlaethol Prydain Fawr,
- Sgwad Genedlaethol Cymru a sgwadiau Rhanbarthol
eraill.
- Mae angen cyfleusterau ychwanegol ar Glwb Hwylio Pwllheli er mwyn
denu digwyddiadau dewis dosbarthiadau Olympaidd a denu timau i gynnal
canolfannau hyfforddiant i baratoi ar gyfer digwyddiadau gan gynnwys
Gemau Olympaidd Llundain 2012.
- Sioe Gychod Cymru.
- Nodwyd y gellid cynnal sioe gychod yn ystod y gwanwyn neu tua
diwedd yr hydref.
- Byddai hyn eto yn rhoi budd economaidd ychwanegol drwy ymestyn
y tymor.
- Byddai’r safle a’r adeilad yn addas ar gyfer digwyddiadau
eraill fel yr ŵyl fwyd ac arddangosfeydd
busnes.
- Mae angen cyfleusterau lansio ac adfer ar gyfer regatas cychod
cilbren bach a’r cychod cefnogi.
- Enghreifftiau SB3, 1720au ayb.
- Mae angen angorfeydd er mwyn cynnal regatas cychod mawr ym
Mhwllheli a Bae Ceredigion.
- Regata Cymru – The Regatta of
Wales
- Mae angen inni hyrwyddo a datblygu regata flaenllaw
- Gallai hyn dyfu’n ddigwyddiad rhyngwladol mawr
yn debyg i Cork Week
- Mae Cork Week wedi adrodd cyfraniad o 10 miliwn Ewro at yr
economi leol
yn ystod yr wythnos honno yn unig
- gyda 500 o gychod hwylio a rhyw 5000 o aelodau criw yn
cyfranogi.
- Bydd darparwyr llety a bwyd ym Mhwllheli a’r ardal yn elwa ar
gynnydd
mewn busnes.
Hyfforddiant ac Addysg
Cyflwynwyd achos gennym am gyfleusterau newydd yn seiliedig ar
hyfforddiant ac addysg.
- Rydym wedi dangos bod y gan y Clwb rôl bwysig i’w chwarae
yn y sector hwn.
- Byddai Hyfforddiant ac Addysg yn dod yn ffactorau llawer pwysicaf
yn y dyfodol.
- Mae angen gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i
gyflwyno’r elfennau hyn.
- I barhau â llwyddiant yr hyfforddiant ieuenctid lleol, a
wneir ar hyn o bryd gan CHIPAC a Chlwb Hwylio Pwllheli, ac er mwyn i
Glwb Hwylio Pwllheli gael ei gydnabod yn Ganolfan hyfforddiant y
Gymdeithas Hwylio Frenhinol.
- Darparu cyfleusterau i alluogi ysgolion a cholegau i ddarparu
gweithgareddau awyr agored yn unol â’r targedau a osodwyd yn
Strategaeth Dringo’n Uwch
LlCC.
- Rhoi cyfle i blant lleol gael profiad o hwylio a gweithgareddau
dŵr eraill nad ydynt ar gael ar hyn o bryd.
- Darparu cyfleusterau hyfforddiant i ysgolion, colegau a
chymdeithasau ieuenctid lleol.
- Annog a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu
gweithgareddau
- Sicrhau y bydd buddiannau’r cyfleuster yn amlwg drwy Ben Llŷn a
Gwynedd.
- Dylid neilltuo refeniw o’r cyfleusterau, digwyddiadau a badau
hwylio sy’n ymweld ar gyfer:-
- hyrwyddo a rheoli’r cyfleuster fel canolfan hyfforddiant hwylio a
- darparu, cynnal a newid yr offer sydd ei angen.
- Dylid datblygu rhaglen hyfforddiant gwirfoddolwyr i ddarparu’r
lefel o sgiliau sydd eu hangen i gynnal y nifer gynyddol o
ddigwyddiadau.
- Hyrwyddo Pwllheli a’i datblygu ymhellach fel canolfan
ragoriaeth
- mewn hyfforddiant rasio i blant iau ac
ieuenctid
- ar lefel genedlaethol a rhanbarthol
- – mewn cysylltiad â Phlas Menai a chymdeithasau
dosbarth.
- Hyrwyddo a datblygu ymhellach hyfforddiant dosbarthiadau
Olympaidd drwy raglenni Cymdeithas Hwylio Cymru a’r Gymdeithas Hwylio
Frenhinol.
- Gweithio gyda’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol ym Mhlas
Menai i ddatblygu’r cyfleuster i statws Academi Hwylio Genedlaethol
Cymru.
- Datblygu a gweithio’n agos gyda chanolfan forwrol Coleg Meirion
Dwyfor i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau'r ardal
Cydrannau'r Cynnig
Gellir rhannu’r gwaith sydd ei angen i gyflwyno’r cynllun yn bedair
rhan gyfleus fel a ganlyn:
- Carthu.
- Pontynau, Cei a Glanfa.
- Cyfleusterau Ar y Lan
- Adeilad.
Carthu
- Comisiynwyd adroddiad eisoes gan Gyngor Gwynedd a disgwylir i’r
Peirianyddion ddarparu eu hadroddiad erbyn mis Ebrill 2007.
- Mae’r astudiaeth gychwynnol hon yn cael ei hariannu gan
LlCC.
- Disgwylir i’r gwaith fod o fudd i’r porthladd cyfan.
- Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys yr adroddiadau amgylcheddol a’r
astudiaethau siltio angenrheidiol.
- Gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau er mwyn i’r
cyfleuster fod ar waith ar gyfer 2008.
- Byddai’r gwaith carthu hwn o fudd i ddefnyddwyr presennol y
porthladd
- Disgwylir y gwneir y gwaith peirianneg mewn ffordd sy’n lleihau’r
angen am garthu yn y
dyfodol.
Blaenorol
Nesaf
Sailing Academy and Events
Centre - Summary (2)
Visitors Berths
The case that we put forward for visitors berths included the
following points:-
- All major marinas and ports should have adequate provision for
visiting yachts.
- There should be adequate berthing facilities available for
visitors
- We should encourage marine tourism as part of a chain of ports
with safe havens and stopping off points for cruising yachts.
- Pwllheli must provide this facility to fill a gap in the chain of
ports along the coast.
- This chain is still fragile compared with the Irish coast.
- There is a large market of French yachts who visit the east coast
of Ireland and the west coast of Scotland.
- There is a new market of Scandinavian yachts who are now cruising
the west coast of Scotland and Ireland.
- There are about 2500 boats in the Dublin Bay area some of whom
may come to Pwllheli if there is a guarantee of berths – they expect a
standard based on their own experience at home.
- Dubilin Bay is a day sail.
- The Celtic Raid, a
growing and popular sailing phenomenon, will be here again in 2007.
- With improved facilities we could hope to see more in coming
years with (we are told) participation of French Yachts!
- This valuable business is not now available to Pwllheli and the
Club as it is general knowledge and reported that there are no
dedicated vacant visitor berths. Effective marketing will be required
to overcome this perception.
- We made the case that the availability of dedicated visitor
berths would have a beneficial effect on the local economy.
- Accommodation and food providers in the area would benefit.
- It has been reported that a berth available for visitors will
produce more spend into the economy (by a factor of 3) than a
permanently let berth.
Events
- We put forward the following case to protect and expand on the
existing business run by the sailing club.
- We demonstrated that this business has an important impact on the
local economy.
- We were aware that this business is of fundamental importance to
the club.
- Tremadog Bay is acknowledged as a world-class competitive sailing
venue.
- Pwllheli was selected as the Olympic sailing venue for the
Manchester Olympic bid.
- Pwllheli is located in an excellent strategic position for UK
based sailing events and is considered to be one of three venues
capable of hosting major dinghy events in the UK.
- The three major event centres are:-
- Weymouth, England,
- Largs, Scotland,
- Pwllheli, Wales.
- Pwllheli Sailing Club hosted 12 major events in 2005 which
contributed 23,880 bed nights or £1.836m into the local economy.
- The events in 2006 contributed £1.5m into the local economy.
- With the events in 2007 PSC events will have contributed in 3
years £5.1 million into the local economy.
- PSC hosted the International Optimist UK National Championship in
2005 with 340 boats participating making the event the largest single
fleet event in Britain.
- Pwllheli hosted the event again last year with a fleet of more
than 360 boats.
- This stretched the clubs facilities to the limit.
- The Club pontoon was used to accommodate 50 rescue and support
RIBS.
- Personnel had to be ferried across to the pontoon - which is not
ideal.
- The Optimist Class plan to return in 2008 and aim to increase the
fleet size to 400 boats by 2010!
- The Club accepts that the facilities must grow to match this
demand.
- The calendar for 2007 is filling up and the Club has been
successful in attracting the International Cadet World Championship
event and qualifiers in partnership with RYA.
- The expected spend into the local economy from this event alone
is calculated at £1.2 million.
- Substantial investment in:
- Weymouth, (£7 million investment) adding in the region of
£6 million each year to the local economy.
- Cardiff Bay and other sailing event centres including
- Torbay (£21 million)
- Investment is required to maintain our existing market share -
let alone obtain an increase in market share.
- We need to enhance the ability of the Club to host major regattas
and continue the growth of the Centre of Sailing Excellence.
- To host these events berths are required for the growing number
of support vessels.
- Launching and recovery facilities are also required for these
support vessels.
- We need to invest to reinforce the existing and growing use of
Pwllheli as a venue for top-class training by:
- Olympic Squad members, GBR national squads,
- The Welsh National squad and other Regional squads.
- Pwllheli Sailing Club requires additional facilities in order to
attract Olympic classes selection events and to attract teams to base
training camps for event preparation including the 2012 London Olympics.
- The Welsh Boat Show.
- It has been identified that a boat show could be held during
the spring or late autumn.
- This again would provide additional economic benefit by
extending the season.
- The site and building would be suitable for other events such
as the food festival and business exhibitions.
- Launching and recovery facilities are required for small keel
boat regattas and the support vessels.
- Examples SB3, 1720’s etc.
- Berths are required so that large boat regattas can be hosted
in Pwllheli and Cardigan Bay.
- Regatta Cymru – The Regatta of
Wales.
- We need to promote and develop a flagship regatta
- This has the potential of growing into a major international
event
- similar to Cork Week
- Cork Week has a reported 10 Million-Euro input into the local
economy during that week alone
- with 500 yachts and some 5000 crew participating.
- Accommodation and food providers in Pwllheli and the area will
benefit from an increase in business..

Training and Education
We put forward a case for new facilities based on training and
education.
- We demonstrated that the Club has an important role to play in
this sector.
- Training and Education would become far more important factors in
the future.
- The need to work in partnership with other organisations to
deliver these elements.
- To continue with the success of the local youth training,
presently undertaken by CHIPAC and PSC, and to enable PSC to become a
recognised RYA training Centre.
- Provide facilities to enable schools and colleges to provide out
door activities in accordance with the targets set in WAG’s Climbing
Higher Strategy.
- Provide an opportunity for local children to experience sailing
and other water activity not currently available.
- To provide training facilities for local schools, colleges and
youth organisations.
- To encourage and promote the use of the Welsh language in all
aspects of their activities
- To ensure that the benefits of the facility will be seen
throughout the Lleyn Peninsula and Gwynedd.
- Revenue from the facilities, events and visiting yachts should be
ring-fenced to:-
- promote and manage the facility as a sailing training centre
and
- provide, maintain and replace the equipment required.
- Programme of volunteer training should be developed to provide
the level of skills required to run the increased number of events.
- Promote and further develop Pwllheli as a centre for excellence
- in junior and youth race training
- at a national and regional level
- – in association with Plas Menai and class associations.
- Promote and further develop Olympic classes training through the
WYA and RYA programmes.
- Work with the National Watersports Centre at Plas Menai to
develop the facility to Welsh National Sailing Academy status.
- To build upon and work closely with Coleg Meirion Dwyfor’s
maritime centre to address the skills needs of the area
Components of the Proposal
The work required to deliver the scheme can be divided into the
following four convenient sections:-
- Dredging
- Pontoons, Quay & Jetty
- On Shore Facilities
- Building .
Dredging
- A report has already been commissioned by Cyngor Gwynedd and the
Engineers are expected to provide their report by April 2007.
- This initial study is being funded by WAG
- Expected to be beneficial to the whole harbour.
- This report will include the necessary environmental reports and
siltation studies.
- We hope that this work will be completed so that the facility can
be in use for 2008.
- This dredging would be of benefit for existing harbour users
- It is expected that the engineering work will be undertaken in
such a way so as to reduce the need for future dredging
Previous
Next