PDF Argraffu

Datblygu'r Clwb, Y Ganolfan
Ddigwyddiadau a'r Academi Hwylio

Adroddiad i'r Aelodau Mawrth 2008

Mae'r adroddiad diweddaru hwn wedi ei baratoi ac yn adlewyrchu barn aelodau'r Grŵp Technegol o CHP.

Mae'n flwyddyn bellach ers i ni gyflwyno'n gweledigaeth i'r Clwb am ddatblygu Academi Hwylio fyddai'n ymgorffori'r elfennau craidd o'r busnes sef Angorfeydd i Gychod ar Ymweliad, Digwyddiadau, Addysgu a Hyfforddi.

Roedden wedi cydnabod ers amser bod y busnes digwyddiadau a hyfforddi wedi tyfu tu hwnt i gyfyngiadau a disgwyliadau cynllun gwreiddiol yr adeilad. Ein gobaith oedd sicrhau gwell adnoddau yn y Clwb fel y gallen ni ddarparu’n ddigonol ar gyfer galwadau presennol yr adeilad ac ar gyfer cynnydd yn y darpar ofynion. Roedd hyn yn cynnwys yr angen pwysig o ddarparu cyfleusterau addas a gwell ar gyfer ein haelodau.

Roedden ni wedi sefydlu cefnogaeth eang ar gyfer y datblygiad o fewn y gymuned, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rydyn ni wedi dangos bod y cynllun yn plethu nifer o bolisïau a strategaethau sy’n darparu ystod eang o gymorth a chefnogaeth ar gyfer yr argymhellion a’r cyfleoedd ariannu posibl.

Bu Grŵp Technegol, gyda chynrychiolwyr o’r holl fudiadau oedd yn cymryd rhan, yn gweithio i ddatblygu’r cynllun a’i symud yn ei flaen. Mae cynrychiolwyr Clwb Hwylio Pwllheli ar y Grŵp hwn wedi bod yn rhagweithiol ac, yn ystod pob cyfarfod ac ymgynghoriad, wedi ymdrechu i gadw at weledigaeth wreiddiol ein cynllun.

Comisiynwyd adroddiad gan Gyngor Gwynedd ar ba mor dechnegol bosibl oedd hi i ddarparu’r angorfeydd angenrheidiol i gychod ar ymweliad a’r cynllun pontŵnau. Dangosodd yr adroddiad bod y cynnig ynghyd â’r gwaith peirianegol sydd ei angen yn dechnegol bosibl. Yn seiliedig ar ein gweledigaeth wreiddiol, paratowyd briff gan Gyngor Gwynedd, gyda mewnbwn gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Grŵp Technegol er mwyn i ymgynghorwyr baratoi cynigion am syniadau ar gyfer Academi a Chanolfan Digwyddiadau Comisiynwyd Marina Projects Cyf, cwmni sy’n arbenigo mewn datblygiadau glannau dŵr a marinas, gan Gyngor Gwynedd gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried pob opsiwn sydd ar gael ac 04/03/2008 i sefydlu hyfywdra’r prosiect. Cynorthwyir yr ymgynghorwyr gan Benseiri Morgan Carey a ymgymerodd â’r ailddatblygiad yng Nghlwb Hwylio Hayling Island.


Erbyn hyn, mae’r Grŵp Technegol wedi cymeradwyo ‘Datganiad o’r Weledigaeth’ a ‘Datganiad o’r Amcanion’ ac mae’r rhain yn amgaeedig. Anogwn chi i’w darllen er mwyn i chi ddeall amcanion pellgyrhaeddol y cynnig.

Yn dilyn cymeradwyo Datganiad o’r Weledigaeth a’r Amcanion datblygwyd nifer o opsiynau posibl: mae’r rhain yn amrywio o “peidio â gwneud dim byd”, neu ymestyn adnoddau presennol y Clwb hyd at godi adeilad newydd mewn gwahanol leoliadau. Mae tîm Marina Projects hefyd wedi gwerthuso pob opsiwn yn drwyadl a gwrthrychol yn ôl meini prawf y Datganiad o’r Weledigaeth oedd wedi ei gytuno.

Cyflwynodd Marina Projects Cyf ei adroddiad interim i'r Grŵp Technegol ar 13 Chwefror. Mae'n wirioneddol galonogol ac yn cadarnhau bod ein syniadau gwreiddiol yn werth astudiaeth ac ymchwiliadau pellach. Er gwaetha'r farn oedden ni wedi ei fynegi y byddai opsiynau eraill ynglŷn â lleoliad yr adeilad yn fwy addas ar gyfer y cynllun, mae Marina Projects Cyf wedi cyflwyno achos taer, ynghyd â rhesymegu dilys, y byddai'r prosiect ar ei elw drwy gael adeilad newydd i'r Clwb mewn lleoliad gwahanol. Maen nhw'n argymell adeilad wedi ei osod gyda pherthynas uniongyrchol â mynediad i'r traeth, gyda'r ystafell glwb ar y llawr uchaf i fanteisio'n llawn ar y golygfeydd dros y traeth a'r môr yn ogystal a thros yr Harbwr a'r marina. Dyma eu barn broffesiynol ac annibynnol nhw.

Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod yr elfen hon o'r prosiect tu hwnt i'n mandad bresennol ac y gellid ei ystyried yn radical ond bydd iddo lawer o fanteision i'n haelodau a gallai roi sicrwydd ariannol i ni i'r dyfodol, ynghyd a ffynonellau incwm ychwanegol.

Mae Marina Projects Cyf wedi cydnabod bod yna farchnad ddigwyddiadau sylweddol yn bodoli eisoes a bod gan Bwllheli enw da yn y maes, yn arbennig am groesawu cystadlaethau dingis oherwydd manteision naturiol y lleoliad. Mae Marina Projects Cyf yn sylweddoli bod potensial i ehangu'r farchnad hon ond y byddai angen buddsoddi yn yr isadeiledd. Heb y buddsoddiad hwn mae'n bosib y byddai ein busnes presennol a'n cyfleodd posibl yn cael eu cyfaddawdu gan ddatblygiadau mewn lleoliadau eraill. Yn ein barn ni, nid yw gwneud dim yn opsiwn cynaliadwy nac yn llesol i fuddiannau tymor hir y clwb.

Bwriad y Grŵp Technegol oedd cael arddangosfa gyhoeddus yn Ionawr 2008 pan fyddai canfyddiadau'r ymgynghorwyr yn cael eu rhannu â'r aelodau a'r cyhoedd.

Oherwydd amgylchiadau na ellid eu rhagweld, mae'r arddangosfa bellach wedi ei threfnu i gael ei chynnal ar Fawrth 6 ed , 7 fed ac 8fed yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar roi diweddariad ac ar ddynodi'r camau sydd angen eu cymryd i wneud cynnydd pellach.

Ein bwriad yw rhoi cyflwyniad cyn yr arddangosfa i'r aelodau ar Ddydd Mercher, 5 ed Mawrth, am 1930 o'r gloch. Bydd tîm CHP ar gael i ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych chi. Fe fyddwn ni hefyd yn cynnal cyfarfod yn Y Clwb ar ôl yr arddangosfa ar ddyddiad cyfleus i'w drefnu.

Rhaid i ni bwysleisio, fodd bynnag, bod y cynllun yn parhau i fod yn ei gyfnod cysyniadol a bod llawer o faterion technegol, gweithredol ac ariannol eto i’w datrys. Yn ystod cyfnod nesaf yr astudiaeth, rhaid i’r ymgynghorwyr ystyried yr achos busnes, canfod rhaglen weithredu, ystyried materion gweithredol ac wrth gwrs, rhaid i’r holl gynllun gael ei brofi’n gynaliadwy.

Ceir gwybodaeth am yr arddangosfa ar Wefan y Clwb cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.

Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen a byddwn yn ymgynghori â chi ar bob cyfnod. Wrth gwrs, bydd ein cynrychiolwyr ar y Grŵp Technegol yn parhau i hyrwyddo lles Clwb Hwylio Pwllheli ac, yn allweddol, disgwyliwn y byddwn yn dal i weithio i symud y cynnig yn ei flaen gan sicrhau y bydd y Clwb yn cael budd o’r cynllun hwn pan gaiff ei wireddu.

Stephen Tudor Ar ran Aelodau Grŵp Technegol Clwb Hwylio Pwllheli

04/03/2008

Cyngor Gwynedd: Arddangosfa Academi Hwylio Pwllheli

Anfonwch sylwadau