CHIPAC Twitter

Lleoliadau uchel - Pencampwriaethau Opi
MONDAY, 18 Mai 2009 23:11

Mae dau aelod o Glwb Hwylio Pwllheli yn y 10 uchaf o aelodau CHIPAC ym Mhencampwriaethau Optimist Canoldir Cenedlaethol.CHIPAC members in Optimist Inland National Chamionships

Teithiodd pump aelod o adran iau Clwb Hwylio Pwllheli yn diweddar i Bencampwriaethau Cenedlaethol Optimist Musto Volvo ar Grafham Water, Northampton.

Dyma o brif gystadleuaeth gyntaf yng nghalendr hwylio Optimist, lle mae angen lleoliadau i ymuno yn sgwad Gwledydd Prydain

Y pump hwyliwr ifanc a ymunodd oedd Mari Davies 12, Indeg Owen 11, Jordan Lee 13, Iago Davies 10, a Gethin Owen 9.

Cymerodd y ddwy ferch ran yn y Fflyd Hynaf gyda 250 wedi ymuno, cafwyd 2 ddiwrnod o rasio caled mew gwyntoedd cryfion iawn, uchafbwynt nerth y gwynt oedd 38 not ar un adeg. Y lleliadau gorau oedd 50ed. gan Indeg Owen a 66ed gan Mari Davies. Y lleoliadau terfynol oedd Mari Davies yn 141 ac Indeg Owen yn 142, gyda Mari Davies yn gobeithio cael un o'r safleoedd i ferched ar benwythnos hyfforddi Sgwad Cymru.

'Roedd y tri bachgen yn cymryd rhan yn y fflyd regata gyda 100 arall. Diddymwyd yr hwylio i'r rhain ar y Sadwrn oherwydd y tywydd a threfnwyd tair ras ar y Sul.

Llwyddodd Gethin Owen yn arbennig i gael dau gyntaf a chweched, gan ei roi yn yr ail safle dros y cyfan o'r rasio. Llwyddodd Iago Davies i gael 3ydd. 6ed. a 9ed. gan ei roi yn yr wythfed safle dros y cyfan cafodd Jordan Lee 6ed. mewn un ras ond gan iddo droi drosodd yn un ras 'roedd yn 33ain dros y cyfan.

Wrth ennill 2 leoliad yn y 10 uchaf mewn Cystadleuaeth Genedlaethol mae ieuenctid Pwllheli yn sicr yn rhoi y Clwb ar  map yng nghylchoed hwylio ieuenctid.