Tâl Aelodaeth - Ailymuno 2012

Tal Aelodaeth 2012 a Dosbarthiadau Aelodaeth:

Mae'r ffurflen ymaelodi ac ailymuno yma.


AELOD LLAWN - £135.00 (£9.00 Adaliad)

Mae Aelodaeth lawn yn addas i berson sengl, neu i’r rhai nad yw eu partner/cymar am ddefnyddio unrhyw adnoddau’r clwb. Mae plant (o dan 18) yn gynwysiedig fel aelodau.

AELODAETH TEULU - £204.00 (£14.00 Adaliad)

 

Mae aelodaeth teulu yn addas i gyplau sydd yn byw yn yr un cyfeiriad. Mae eu plant (o dan 18) hefyd yn aelodau.    

AELOD CYMDEITHASOL - £74.00  (£6.00 Adaliad)

Mae aelodaeth Cymdeithasol ar gyfer person sengl neu gyplau sydd yn byw yn yr un cyfeiriad,  sydd ddim am gymeryd rhan mewn gweithgareddau hwylio/cychod ac sydd a’u prif gartref yng Ngwynedd. Mae eu plant (o dan 18) sydd ddim yn cymeryd rhan mewn gweithgareddau hwylio/cychod hefyd yn aelodau.

AELOD IEUANC - £17.00

I bobl ifanc o dan 18 nad yw eu rhieni yn Aelodau Llawn neu’n Aelodau Teuluol neu sydd mewn addysg llawn amser.    

AELODAETH MYFYRWR - £30.00 (£2.00 Adaliad)

Mae Aelodaeth Myfyrwr yn addas i oedolyn sydd o dan 26 ar 31ain o Ragfyr yn y flwyddyn aelodaeth sydd mewn addysg llawn amser (bellach neu uwch) , neu unigolyn diwaith o dan 26 sydd yn cymeryd rhan mewn gweithgareddau hwylio.

NEWYDD AR GYFER 2009
AELODAETH RHAGARWEINIOL - £10.00
Aelodaeth rhagarweiniol am dal isel i berson unigol neu i deuluoedd. Aelodaeth am bythefnos yn unig. Nid yw ar gael i berson sydd wedi bod yn aelod yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Ar gael unwaith bob blwyddyn i bob person.  Mynediad i'r clwb a'r cyfleusterau. Dim gostngiadau yn y bar na'r gali. Dim hawliau arwyddo i mewn na phleidleisio. Ceir ad-daliad os uwchreddir aelodaeth i ddosbarth uwch yn ystod yr un flwyddyn aelodaeth.   

Mi fydd yr ad-daliad yn cael ei roi ar eich cerdyn os derbynnirr cyn Chwefror 1af 2012


Mae'r ffurflen ymaelodi ac ailymuno yma - felly ewch ati i'w llenwi a'i dychwelyd gyda'r ffi briodol, os gwelwch yn dda.

Rydyn ni ynghanol y dasg o ddiweddaru'n cronfa ddata o aelodau ac fe fyddai'n wych pe gallech chi roi'r cyfan o'r wybodaeth sydd ei angen ar y ffurflen (gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost cyfredol), hyd yn oed os ydach chi'n credu bod eich manylion chi ganddon ni'n barod.

Mae'r ffurflen aelodaeth ar gael yma.