CHIPAC Twitter

Adroddiad CHP
TUESDAY, 07 APRIL 2009 22:00

Cynhaliwyd CYRC cynta’r flwyddyn yng Nghlwb Hwylio Pwllheli ar Ebrill 4ydd.  Mae’r CYRC wedi’i gynllunio i hwylwyr ifanc gael eu profiad cyntaf o rasio dingi mewn awyrgylch gyfeillgar ond cystladleuol.

Roedd 21 o hwylwyr cryf yn amredu o 9 mlwydd oed i 17 mlwydd oed o glybiau hwylio ar draws Gogledd Cymru gan gynnwys Shotwick , Penmaenmawr a Felinheli yn cymryd rhan.  Clwb hwylio Pwllheli oedd rhan fwyaf o’r cystadleuwyr gyda 7 o’r 11 hwylwyr Optimist, 3 o’r 6 topper a 3 o’r hwylwyr laser o’r clwb cartref.

Ar ol 3 ras gyffrous mewn awel gref ond oer aeth y safle cyntaf i Mari Davies (Pwllheli), ail safle i Emlyn Wiliams (Felinheli) a’r trydydd safle i Gethin Owen ( Pwllheli) yn y fflyd aur Optimist.

Josh Dawson (Felinheli) ennillodd y fflyd Optimist arian gyda Jordan Lee (Pwllheli) yn dilyn yn agos, ag Indeg Owen (Pwllheli). Bu Jordan Lee yn anlwcus o gapseisio ei gwch ar amser drwg.

Tom Williams (Shotwick) a fu’n dominyddu y Toppers ond bu rasio clos rhwng Iolo Bryn (Pwllheli) a Mathew Butterworth (Pwllheli) trwy’r dydd, gyda Iolo yn y pen draw yn dod yn ail yn y Toppers. 

Roedd rasio yn y dosbarth Laser yn llawer mwy cystadleuol ac agos a daeth cyntaf i Robert Forshaw (Pwllheli) gyda Siwan Roberts (Pwllheli) yn ail agos ar ol cystadleuaeth gyffrous am y safle cyntaf.  Calvin Kopec (Penmaenmawr) a ddaeth yn drydydd gyda William Filby (Pwllheli) yn bedwerydd ar ol rasio caled.

Dilynwyd yr hwylio gyda disgo a helfa wyau pasg. 

Clwb Hwylio Pwllheli ennillodd y darian adran ieuenctid 2008, ag ar ol y cynulliad yma edrychir yn debygol y bydd y clwb yn fuddugol eto y flwyddyn hon.