Clwb Hwylio Pwllheli Sailing Club Datganiad i'r wasg PWLLHELI'N CAEL HWB HYFFORDDI CYN GEMAU OLYMPAIDD LLUNDAINMae Clwb Hwylio Pwllheli – Y Ganolfan Hyfforddi Hwylio Genedlaethol – ar y rhestr ddethol yn y Cyfeirlyfr sy'n nodi'r mannau ymarfer posibl i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain - y "London 2012 Olympic Pre-Games Training Camp Guide". Bydd y cyfeirlyfr, sy'n cael ei ddarparu gan Bwyllgor Trefnu Llundain ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, yn rhestru'r mannau a ddewiswyd fel darpar leoliadau i ymarfer a hyfforddi cyn y Gemau. Edrychwyd ar dros 1000 o adnoddu chwaraeon ac y mae'r lleoliad yn Llŷn wedi ei enwi fel un o'r mannau ymarfer hwylio fydd yn cael eu cynnig i dimau tramor cyn y gemau mawr eu hunain. Cynhaliwyd proses werthuso eithriadol o drylwyr ar bob un lleoliad. Mae hon yn bluen arall yng nghap Pwllheli sy'n cael ei gydnabod yn fyd-eang am fod i'r lleoliad amodau hwylio naturiol ac adnoddau gwych. Mae'r Clwb Hwylio eisoes wedi cael llwyddiannau drwy groesawu Pencampwriaethau Byd a Regatas Cenedlaethol a dewiswyd Pwllheli hefyd ar gyfer dau gynnig Manceinion am y gemau Olympaidd. Mae enw da Pwllheli fel Canolfan Digwyddiadau Hwylio Cenedlaethol* yn parhau i gynyddu ac mae'r lleoliad yn cael ei gydnabod yn strategaeth Digwyddiadau Safon Byd yr 'UK Sport/RYA World Class Events Strategy (2006-2012)’ fel lle i gynnal prif bencampwriaethau hwylio dingis, yr unig le yng Nghymru i gael i fath anrhydedd. Eisoes mae aelodau'r sgwad "GBR" Olympaidd yn hyfforddi ym Mae Tremadog ac y mae'r adnoddau'n cael eu defnyddio'n rheolaidd gan sgwadiau Ieuenctid a Iau GBR yr RYA, ynghyd â sgwadiau'r "Class Association". Wrth groesawu'r cyhoeddiad wnaed heddiw, dywedodd Llywydd Clwb Hwylio Pwllheli, Richard Tudor, "Mae Pwllheli'n gallu cynnig opsiynau diguro gan fod amodau hwylio ym Mhwllheli yn union fel rhai'r lleoliad hwylio Olympaidd yn Weymouth. Mae yma ddyfroedd hwylio ysblennydd, gydag ychydig iawn o ddylanwad y llanw, a rydan ni'n wynebu tua'r De, sy'n cynnig yr amgylchiadau gorau posibl i hyfforddwyr a chystadleuwyr Olympaidd ddod i baratoi." Dywedodd Alan Williams, Rheolwr Canolfan Plas Menai ac aelod o dîm hyfforddi'r GBR Olympaidd, “Mae hyn yn newydd ffantastig i Bwllheli; dyma un o'r lleoliadau hwylio gorau drwy Brydain a bydd yn wych gweld timau Rhyngwladol yn dod yno i ymarfer." * Nodyn i Olygyddion: Sefydlwyd Clwb Hwylio Pwllheli ym 1958 ac mae bob amser wedi mabwysiadu swyddogaeth gyfrifol i hyrwyddo hwylio ac i ysgogi pobl ifanc i fentro ar y dŵr. Eleni mae'r clwb yn dathlu hanner canmlwydd o hyrwyddo'r gamp o hwylio. Agorwyd adeilad y Clwb presennol ym 1997 ac fe'i datblygwyd yn Ganolfan Digwyddiadau Hwylio. Mae Clwb Hwylio Pwllheli, gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi cyflogi'r medrus Gareth Roberts fel 'Rheolwr Hyfforddi a Chefnogi Digwyddiadau'. Heddiw, mae Gareth yn y "Dinghy Show" yn hyrwyddo Pwllheli fel lleoliad Digwyddiadau. Mae hefyd yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu hyfforddiant hwylio i ieuenctid ym Mhwllheli ac mae'n gweithio ar y cynllun Ysgolion 5 x 60. Mae hefyd yn gweithio gyda sefydliad Plas Menai i gynnig sesiynau hwylio allgymorth i bobl ifanc lleol. Mae'r Clwb Hwylio – y Ganolfan Digwyddiadau Cenedlaethol - yn gweithio mewn partneriaeth agos â Chymdeithas Hwylio Cymru (Welsh Yachting Association), Y Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Dŵr ym Mhlas Menai a gyda Chyngor Gwynedd, yr Awdurdod Lleol. Mae Canolfan Digwyddiadau Clwb Hwylio Pwllheli wedi ei lleoli ar ymyl adnoddau morwrol ardderchog Hafan Pwllheli. Mae'r Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Dŵr ym Mhlas Menai'n darparu hyfforddiant hwylio elît ym Mhwllheli ac o'u canolfan arferol ym Mhlas Menai. Maen nhw'n rhan o rwydwaith y Sefydliadau Chwaraeon Cenedlaethol drwy'r DU. Mae Canolfan Digwyddiadau Cenedlaethol Clwb Hwylio Pwllheli yn cydweithio'n agos ac yn cael cefnogaeth gan y mudiad hwylio canolog, yr RYA (Royal Yachting Association – sef y Corff Rheoli drwy'r DU), Cymdeithas Hwylio Cymru, sef yr WYA (Welsh Yachting Association – sef y corff rhanbarthol), Cyngor Chwaraeon Cymru, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn datblygu'r adnoddau i fod yn addas ar gyfer pencampwriaethau byd a hyfforddiant elît. Ar hyn o bryd mae Clwb Hwylio Pwllheli a Chyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu Academi Hwylio o Safon Byd fydd y cyfuno elfennau craidd Addysgu a Hyfforddi, Digwyddiadau ac Angorfeydd i Gychod ar Ymweliad. Bydd cyhoeddiad cyn hir am y prosiect cyffrous hwn. |