International 29er UK Nationals

 

Dosbarth  :-       29er

Dyddiad    :-       14-20/08/201029er

Hwylio i bwy:-    Ieuenctid

Manylion   :-       Sgiff hwylio perfformiad uchel ydi'r "29er", wedi ei gynllunio i griwiau ysgafn, i hwylio cychod trapîs i ddau ac fel cwch ymarfer ar gyfer hwylio'r cwch mwy – y "49er".Dyluniwyd y "29er" gan Julian Bethwaite gyda chymorth Jen Glass. Mae'r "29erXX" yn rig mwy pwerus ar gyfer corff y "29er" arferol. Yn wir, mae'r rig newydd yn hynod o debyg i frawd mawr y "29er"  - "49er".Gan nad oes llyw symudol nac offer rheoli ychwanegol, mae cynllun y "29erXX" yn un syml, eto mae'n hynod o sensitif i symudiadau'r hwylwyr. Rhaid i hwylwyr y "29erXX" fod yn eithriadol athletaidd a chyd-drefnus gan fod y sgiff yn sialens barhaus hyd yn oed i'r hwylwyr mwyaf profiadol. Adeiladir pob un o gychod "29er" y DU gan Ovington.

Disgwylir 50 – 80 cwch