Newyddion diweddaraf
Newyddion Chwefror 2012
WEDNESDAY, 01 FEBRUARY 2012 13:26

 

Newyddion Chwefror ~ February News

Mae'r ddogfen yma ar gael yn Gymraeg. This newsletter is also available in Welsh.




If you no longer wish to receive these newsletters: {unsubscribe}unsubscribe{/unsubscribe}

E-mail disclaimer

 

 

Newyddion Chwefror ~ February News

Mae'r ddogfen yma ar gael yn Gymraeg. This newsletter is also available in Welsh.




If you no longer wish to receive these newsletters: {unsubscribe}unsubscribe{/unsubscribe}

E-mail disclaimer

 

 

 
Boat Theft - Warning
FRIDAY, 20 JANUARY 2012 14:25

The following warning has been issued by WYA:

Llandudno Sailing Club have asked us to circulate details of 2 RIB outboards recently stolen from their boat park, and request that clubs please be observant of any approaches from individuals offering cheap outboards or parts thereof:
 
The club has provided the following details:
 
1 x Ancient.... Mariner engine (Diver’s club rib) not sure of the HP on this one but it is a manual lift 2-stroke.
 
1 x Suzuki 40HP 4-stroke removed from the LLSC Humber RIB. 2 year old newly serviced.
 
In both cases control cables were cut and engines removed.
 
If you have any information, please contact the club direct on 01492 549900, or through WYA.
 
Thank you.
 
Welsh Yachting Association-Cymdeithas Hwylio Cymru
8 Llys y Mor
Plas Menai
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1UE
E Mail / E Bost:  Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Website / Gwefan: http://www.welshsailing.org/ 
 
Office / Swyddfa: 01248 670738
 

 
Newyddion Nadolig
SUNDAY, 01 JANUARY 2012 00:00

 

Newyddion Nadolig - Christmas News

Mae'r ddogfen yma ar gael yn Gymraeg.

This newsletter is also available in Welsh.


Neges Nadolig

Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn gyffrous iawngyda datblygiadau sylweddol ynglyn a'n cartref newydd. Mae Penseir yr Academi wedi eu penodi ac wedi cynhyrchu cynlluniau eiconig, ond ymarferol gwych a ranwyd gyda chwi eisoes. Mae cynllunio manwl wedi cychwyn ac wedi ei rannu a chi. Bydd ymgynghori yn parhau. Bydd y flwyddyn newydd yn gweld 'rhawiau yn y ddaear' gyda gwaith yn cychwyn ar y ffordd a gwaith ymarferol arall. Rhagwelwn y bydd 2012 yn fwy cyffrous fyth.
Yr ydym hefyd wedi cael cychio gwych eleni gyda phob adran o'r clwb yn cymryd rhan mew gweithgarwchorasio Clwb i rasio allfor, trwy ddigwyddiadau pwysig i fordeithiau cychod modur heb son am lwyddiant Hwylio Ieuenctid a rhaglen gymdeithasol gaeaf. Yn ystod y flwyddyn croesawyd ein harlwywr newydd Mel, sydd wedi ymdrechu i gyfarfod a'n holl anghenion amrywiol gyda llwyddiant arbennig.
Edrychw ymlaen i flwyddyn arbennig yn 2012.
Mae'r ffurflen gais aelodaeth/ adnewyddiad ynghlwn wrth y calendr neu ar y wefan yma.
Cymrwch fantais o'r gostyngiad yr ydym eto yn ei gynnwys, trwy dalu cyn diwedd Ionawr. Yn ychwanegol trwy newidiadau yn rheolaeth aelodaeth, mae'r Clwb yn gallu cynnig arbedion sy'n cael eu hadlewyrchu mewn gostyngiad yn y tal aelodaeth eleni.
Edrychaf ymlaen i'ch gweld yn fuan ac y cewch gychio pleserus ym 2012.
Phil Ranner Morlywydd

ar ran y Pwyllgor Rheoli.


Calendr 2012

Mae Calendr arbennig CHPSC 2012 yn cael ei ddarparu gyda'n cyfarchion, a chyda cefnogaeth ein noddwyr a chyfraniadau gan y tynnwyr lluniau. Y mae ar ei ffordd i chi yn awr. Edrychwch ar y wefan i gael cromlin y llanw. Darllener ymhellach....


Rasio

Mae Rhaglen drafft rasio ar gael ar y wefan - dogfen drafod yw hon a byddai eich sylwadau yn dderbyniol. Anfonwch hwy i Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. Darllener ymhellach........


Cynllun Academi

Yr ydym wedi cynnal cyfarfodydd yn y Clwb i ddangos i chi y cynlluniau rhagarweiniol a derbyniwyd gwybodaeth werthfawr gan aelodau sydd wedi ei fwydo i'r penseiri. Gan fod y gwaith yn awr wedi cychwyn ar y cynlluniau manwl gobeithiwn gynnal cyfarfodydd pwllach i gael eich syniadau a manylion pellach. Darparwn rhain yn fuan.


CHIPAC - Christmas Regatta
Cymrodd dros 60 ran ac mae'r canlyniadau ar gael yma.  Mwy yma........

CHIPAC - Congratulations
Llongyfarchiadau i Josh a Jake Davies, dau aelod arall o CHIPAC , ar eu llwyddiant diweddar yn  ennill lle yn Academi Hwylio Cymru adran 29er. a hefyd o gael eu dewis i garfan cyfnewid Volvo Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol.

'Rydym yn falch o lwyddiant ein hwylwyr ifanc yn adrannau yr Optimist a Topper ac mae llwyddiant yn adran y 29er. yn fwy o glod i Chipac a hefyd i Glwb Hwylio Pwllheli.Sailing Club.  


If you no longer wish to receive these newsletters: unsubscribe

E-mail disclaimer

 

 
Ddigwyddiadau Hwylio 2012
SATURDAY, 31 DECEMBER 2011 00:00

Prif Ddigwyddiadau Hwylio ym Mhwllheli

2012

Mae’n bleser gan Glwb Hwylio Pwllheli gyhoeddi eu rhaglen o brif achlysuron hwylio ar gyfer tymor 2012.

Fel dywed Gareth Roberts, ein Rheolwr Digwyddiadau, “Ym mlwyddyn y Gemau Olympaidd, rydyn ni’n hynod falch o groesawu i’n plith y pencampwriaethau Finn Rhyngwladol Meistri’r Byd a’r Gystadleuaeth Gosod Safleoedd Rhyngwladol cychod Laser y DU. Ymhlith hwylwyr y ddau ddosbarth hwn, mae yna rai sydd â gobaith ennill medalau Olympaidd yn Awst 2012 yn Weymouth. Rydyn ni hefyd yn gartref pencampwriaethau’r DU ar gyfer y dosbarthiadau “bwydo Olympaidd” iau y cychod Optimists a Topper. Rhain fydd y ddwy gystadleuaeth fwyaf ar gyfer dingis yn y DU yn ystod y flwyddyn.

“Mae Pwllheli, heb unrhyw amheuaeth, ymhlith y lleoliadau hwylio pwysicaf yn y DU ac wrth i’r Academi Hwylio Genedlaethol newydd gael ei chodi, mae’r rhagolygon yn parhau’n llewyrchus ar gyfer hwylio yng Nghymru.”

1 - 6 Ebrill                     RYA - Pencampwriaethau Ieuenctid y DU

Dyma brif ddigwyddiad rhaglen hwylio ieuenctid y DU ac yma y dewisir hwylwyr i gynrychioli’r DU ym mhencampwriaethau Byd y Ffederasiwn Hwylio Rhyngwladol (ISAF). Rhagwelir y bydd yno dros 220 o bobl ifanc (dan 19) yn cystadlu mewn 6 dosbarth dingi a hwylfyrddio.

21 - 22 Ebrill                 Pencampwriaethau Ieuenctid a Iau Cymru.

Dros 120 o oreuon ifanc a iau Cymru yn ymgiprys i fod yn bencampwyr hwylio cenedlaethol.

27 Mai - 1 Mehefin          Pencampwriaethau Finn Rhyngwladol Meistri’r Byd (Finn World Masters).

Dyma’r pencampwriaethau sy’n cael eu hwylio yn y math o gwch ddaeth a medal aur i Ben Ainsley yn y gemau Olympaidd ar ddau achlysur. Mae’r cystadleuwyr dros 40 oed a dyfernir gwobrau yn ôl categorïau oedran, gan gynnwys “Y Chwedlonol” (Legends) sydd dros 70 mlwydd oed. Rhagwelir y bydd dros 150 o gystadleuwyr, yn cynnwys cyn hwylwyr Olympaidd, o Ewrop a gweddill y Byd. Yn ystod y pencampwriaethau hyn, bydd y fflam Olympaidd yn cael ei chario drwy Bwllheli ar 28 Mai.

22 - 27 Gorffennaf         Pencampwriaethau Rhyngwladol Cenedlaethol ar gyfer cychod Topper y DU

Disgwylir y bydd dros 350 o gystadleuwyr ifanc yn yr ornest hon. Dyma’r achlysur ail fwyaf ar gyfer un dosbarth drwy’r holl DU yn ystod 2012. Fel llwybr tuag at lawryfon Olympaidd, mae’r gystadleuaeth wedi cynhyrchu llawer o ddarpar hwylwyr ar gyfer Tîm Olympaidd Prydain, gan gynnwys y tri brawd, Dyfrig, Eifion a Bleddyn Môn, o Ynys Môn. Bydd Pencampwriaethau Byd y dosbarth hwn yn cael ei gynnal ym Mhwllheli yn 2014.

12 - 17 Awst            Pencampwriaethau Rhyngwladol Cenedlaethol ac Agored cychod Optimist y DU.

Rhagwelir y bydd y Pencampwriaethau hyn yn denu dros 450 o hwylwyr (dan 16) o fwy na 15 o wledydd. Dyma’r achlysur mwyaf ar gyfer un dosbarth o gychod fydd i’w gael yn y DU yn 2012. Yn y gorffennol, mae enillwyr o’r dosbarth hwn wedi mynd ymlaen i ennill anrhydeddau Olympaidd a Byd-eang yn ddiweddarach yn eu gyrfa, ac mae’r rhain yn cynnwys aelodau o dîm Hwylio Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012, Hannah Mills a Ben Ainslie.

19 - 24 Awst            Pencampwriaethau Cenedlaethol Firefly y DU

Cwch dingi 12 troedfedd i ddau ydy’r “Firefly” a rhagwelir y bydd dros 120 yn dod i gystadlu. Cynlluniwyd y cwch gan Uffa Fox, fe’i defnyddiwyd yn y Gemau Olympaidd ym 1948 ac mae’n boblogaidd ar gyfer rasio timau, gan gynnwys Pencampwriaethau Byd Timau Rasio’r Ffederasiwn Hwylio Rhyngwladol (ISAF).

26 - 31 Awst           Pencampwriaethau Cenedlaethol Cherub y DU

Dingi 12 troedfedd hynod o gyflym gyda sbinacr anghymesur a dwbl-trapîs ydy’r “Ceriwb”. Dyma ddosbarth o gychod arloesol o ran dyluniad a deunydd – tua 70 cilogram ydy pwysau’r cychod a rhagwelir y bydd gweithgareddau’r 60 o hwylwyr yn peri cryn ryfeddod.

8 - 11 Medi.     Pencampwriaethau RS 300 a 600 y DU

Dyma gychod dingi cyflym o’r dosbarth RS ar gyfer un hwyliwr – a bydd y ddau ddosbarth yn rasio am bedwar diwrnod o hwylio. Mae’r RS 300 yn gwch dingi ‘heicio’ chwim tra bod yr RS 600 yn gwch dingi trapîs.

6 - 7 Hydref.         Cystadleuaeth Gosod Safleoedd Rhyngwladol cychod Laser y DU

Mae dau ddosbarth cychod laser, yn seiledig ar faint eu rig hwyliau. Dosbarth safon Olympaidd i ddynion ydy’r Rig Safonol tra bod y Rig Radial ar gyfer cychod dingi Olympaidd un person i ferched. Disgwylir y daw 130 i gystadlu am bwyntiau gosod safleoedd rhyngwladol ar gyfer 2013.

26 - 27 Hydref.        Cyfres “Grand Prix” y DU ar gyfer cychod “29er” rhyngwladol.

Sgiff antur dau berson, gyda sbinacr cymesur a thrapîs, sy’n cael ei hwylio’n bennaf gan hwylwyr ifanc. Mae’n llwybr i handlo cychod mwy o faint, megis y “49er” Olympaidd. Disgwylir gweld  dros 60 o hwylwyr yn y gystadleuaeth hon, sy’n rhan o gyfres o rasys drwy’r DU.

Pwyllgor Digwyddiadau

Clwb Hwylio Pwllheli Sailing Club

Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Digwyddiadau

 

Tachwedd 2011

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gareth Roberts yn y clwb hwylio ar 01758 613343 neu Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

 

 

I’r Golygyddion

Mae Clwb Hwylio Pwllheli  yn glwb aelodaeth cysylltiol gyda’r RYA, corff llywodraethol hwylio yn y DU, sy’n darparu’r awdurdod ar gyfer rheoli digwyddiadau hwylio dan ei Reolau Rasio, a’r rheiny wedi eu cymeradwyo gan ISAF, y corff rheoli rhyngwadol. 

Pwllheli ydy un o’r pedar lleoliad arfordirol yn rhwydwaith academi’r RYA a’r unig un yng Nghymru.

Yn y flwyddyn 2010 dyfarnwyd swm o £9.6 miliwn i Gyngor Gwynedd gan gronfeydd Llywodraeth Cymru a Chydgyfeirio Ewrop ar gyfer adeiladu prosiect cyfalaf, sydd i gynnwys adeilad academi newydd ac adnoddau cysylltiol ar lan y dwr. Bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn gynnar yn 2012, a’i gwblhau yn nhymor yr hydref 2013.


 

 
Canlyniadau Regata Nadolig CYRC
MONDAY, 19 DECEMBER 2011 20:04

Canlyniadau Handicapiau Cyffredinol

Canlyniadau Eraill

 
<< Cychwyn < Yn ôl 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 Nesaf > Diwedd >>

JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL