| Ymgynghoriad Academi Hwylio |
|
CLICK HERE FOR THE ENGLISH VERSION Annwyl Bawb, Mae ymgynghoriad wedi ei drefnu ym Mhwllheli a fydd yn rhoi cyfle i dderbyn sylwadau, syniadau a barn cyrff, sefydliadau a’r cyhoedd yn gyffredinol i ddyluniad adeilad Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau Pwllheli. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghlwb Hwylio Pwllheli Dydd Mawrth 17 Ionawr 2012 o 12pm tan 8pm. Dewch i gael cyfle i weld a bod yn rhan o ddylunio adeilad cyffrous yr Academi. Bydd cyfle i gael gweld syniadau cychwynnol dyluniad yr adeilad a chyfle i chi roi eich mewnbwn. Penseiri Ellis-Williams mewn partneriaeth a phenseiri lleol Dobson:Owen sydd wedi eu dewis i ddylunio’r ganolfan eiconig a byddant yn bresennol i arwain drwy’r broses ymgynghori ac y dderbyn eich sylwadau. Digwyddiad agored fydd hwn, ond os dymunwch drefnu amser i drafod y cynllun yn benodol gyda’r penseiri byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn cysylltu â mi o flaen llaw i ni allu trefnu. Byddai modd trefnu sesiwn un i un neu gyda grŵp. Bydd yr arddangosfa yn dal i’w gweld yng Nghlwb Hwylio Pwllheli am weddill yr wythnos, a bydd yn Neuadd Dwyfor yn ystod wythnos sydd yn cychwyn 23 Ionawr 2012. Fel y gwyddoch mai’r prosiect £8.3 miliwn wedi sicrhau tua £4 miliwn o raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd ac o Gronfa Arian Cyfatebol Targed Llywodraeth Cymru. Pan fydd yn agor yn 2013, rhagwelir y bydd yr Academi Hwylio’n denu miloedd o ymwelwyr ychwanegol i’r ardal bob blwyddyn, yn cynnig cyfleoedd hwylio o’r radd flaenaf a hyfforddiant i bobl leol a chyfleuster cymunedol newydd y mae mawr angen amdano i’r dref. Gwerthfawrogwn pe allech anfon y neges yma ymlaen i unrhyw un arall fyddai â diddordeb mewn mynychu. Am ragor o wybodaeth gellir cysylltu gyda Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. 01286 679513 neu www.gwynedd.gov.uk/academihwylio |

