Ymgynghoriad Diweddar
Ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr cwbwlhawyd cylch arall o ymgynghori, a gychwynodd gyda'g ymgynghoriad rhag gyhoeddus, Nos Lun i'n haelodau gan ddilyn gyda chyfarfod llawn i'r cynhoedd ddyd Mawrth 17 Ionawr pryd yr oedd ein Penseiri a'r Cynllunwyr yn bresennol i ateb cwestiynnau a gwrando ar sylwaday.
'Roedd cyfle pellach i'n haelodau a gwesteion i astudio y cynlluniau diweddaraf ddydd Sadwrn 21 Ionawr. Bydd defnydd yr ardangosfa yn cael ei osod yn Neuadd Dwyfor am yr wythnos yn cychwyn 23 Ionawr. deallwn fod ymateb da iawn wedi bod i'r cais am syniadau.Mae y rhain yn awrwedi eu casglu a'u dadansoddi gan y tim cynllnio ynghyda sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Rheoli. Mae copiau o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gael trwy ddilyn y linc yma.
Os oes gennych syniadau y credwch y dylem eu hystyried nid yw'n rhy hwyr. Gwnewch hyy trwy ateb yr E-Bost yma.
Cyfarfodydd pellach/ ymgynghori
Byddwn hefyd yn trefnu cyfarfodydd pellach fel y bydd y cynlluniau yn datblygu ac y daw cynlluniau wedi eu hadolygui law.
Bydd arddangosfa gyhoeddus eto cyn cylwyno'r cynlluniau terfynol pan fydd mwy o fanylion ar gael. Mae hyn yn debyg o fod yn nechrau Mawrth.
Cadarnhad i fynd ymlaen yng Nghyfarfod 5 Chwefror 2011 Copi yma.
Pan gyferfu'r aelodau ar 5 Chwefror 2011 rhoddwyd cadarnhad i'r argymhelliad yn amodol ar dri amod gael eu gwireddu gan y Pwyllgor Rheoli (P.Rh.) Mae'n bleser gennym adodd ein bod yn symud ymlaen ar y tri penawd.
1. Cynllun
Mae'r P.Rh. yn hyderus y bydd y cynllun terfynol yn cyfarfod a'n gofynion gan ddarpau'r cyfaddasiad angenrheiiol at ddefnydd ein haelodau, ymwelwyr i ddigwydiadau a'r cyhoedd. Bydd yn cynnwys ystafell i'r aelodau a drafodwyd ar 5 Chwefror 2011.
2. Rheolaeth
Mae llawer o waith wedi ei wneud ynglyn a rheolaeth a llywodraeth y ddarpariaeth newydd ac mae'r P.Rh. yn fodlon fod y treniant newydd yma nid yn unig yn diogelu a chadw annibyniaeth Clwb yr Aelodau ond hefyd yn darparu'r rheolaeth gorau i'r ddarpariaeth gymleth aml bwrpas yma,trwy gwmni di-elw. Bydd y rhediad dydd i ddydd yn nwylo rheolwr proffesiynol yn cael ei gyflogi gan y cwmni.
3. Cynnaladwyaeth
Gyda'r trefniadau llywodraethu newydd bydd annibyniaeth Clwb yr Aelodau yn cael ei sicrhau a'i ddyfodol hir dymor yn cael ei ddiogelu. Mae'r P.Rh. yn hyderus y bydd y Clwb yn gynaladwy yn y dyfodol.
Gwaith yn dechrau yn fuan.
Cafwyd gwybod, ac er mwyn cyfarfod a thablau amser a osodwyd gan yr awdurdodau cyllido, y bydd gwaith yn dechrau ar y ffordd newydd erbyn diwedd y mis. Mae hyn yn anochel o achosi anhyfleusdra ond gobeithiwn, o gychwyn y gwaith yr adeg yma o'r flwyddyn, y bydd yr anghyfleusdra yn cael ei leihau i aelodau, deiliaid angorfeydd a busnesau yng Nglan Don. Cwbwlheir y gwaith erbyn diwedd mis Ebrill a bydd trefniadau dros dro mewn lle i gynorthwyo gyda parcio a chyfleusterau croesi ffordd nes cwbwlheir yr adeilad newydd.
Bydd gwaith ar yr adeilad yn cychwyn ar ddiwedd y tymor gan gwbwlhau erbyn Hydref 2013.
Bydd y gwaith ar y angorfeydd yn dechrau ym medi a dylid eu cwbwlhau fel bo'r angorfeydd newydd a'r safle lansio ar gael i'w ddefnyddio yn y flwyddyn newydd.
Awgrymiadau
'Rydym yn gwerthfawrogi eich hawgrymiadau ynglyn ag unrhyw agwedd o'r cynllun gwefreiddiol yma ac os oes gennych unrhyw syniadau pellach neu sylwadau gwnewch hynny trwy ateb yr E-bost yma, gan roi gwybod os ydych am i'r sylwadau gael eu dangos ar y wefan. yma.
Stephen Tudor Ysg Mygedol
Dros ac ar ran y Pwyllgor Rheoli
Clwb Hwylio Pwllheli Sailing Club
Heart of Welsh Sailing - Calon Hwylio Cymru
|