Gwobr am Gyfraniad arbennig i Gwyndaf
Derbyniodd Gwyndaf y wobr arbennig yma am gyfraniad dros 49 mlynedd yn hyfforddi pobl ifanc. - Mwy yma...
Cymru yn erbyn Awstralia
Dowch i weld Cymru yn gorchfygu y Walabis, gem olaf Shane, Cychwyn am 14.30.
Rigeta Nadolig CHIPAC
Manylion llawn ar y wefan ymuno ag ati. -Mwy yma.
Mae'r criw ifanc am barhau hwylio trwy'r gaeaf. Mae hanes llwyddiant y plant yma.
Tal Aelodaeth 2012
Gosodwyd y tal aelodaeth am 2012, 5% yn is na 2011, sy'n cydnabod yr amgylchiadau economaidd anodd sy'n wynebu aelodau a'r clwb. Mae'r penderfyniad wedi ei amcanu er mwyn cadw'r aelodau presennol a hybu aelodau newydd. Mae'r ffurflenni cais ar gael ar y wefan ac yn cael eu rhannu gyda Chalendr 2012, a dybiwn fydd yn llwyddiant eto.-Read More.
Noson Rasio Cychod Cel 17 Rhagfyr
Mae'r pwyllgor rasio wedi trefnu noson ar Sadwrn 17 Rhagfyr i unrhyw rhai a diddordeb yn rasio'r clwb (a ffrindiau). Bydd cyfle i sgwrsio am lwyddiannau tymor 2011, y problemau a'r gofidiau. Bydd cyfle i drafod a pharatoi rhaglen Rasio 2012. Bydd y noson yn cynnwys cinio £15 ypen. Ticedi ar gael gan Dave wrth y bar (01758 614442). A fyddwch cystal a chadarnhau neu fel arall trwy ateb yr E-Bost yma.
Y Ffagl Olympaidd yn ymweld a Pwllheli
Bydd y Ffagl yn ymweld a Pwllheli a'r Clwb Hwylio ar 28 Mai 2012. Mae hwn yn gyfle arbennig i'r Dref a'r Clwb ac yn cynabod safle'r Clwb fel Gwersyll Ymarfer Olympaidd Swyddogol.
Calendr Digwyddiadau 2012
Mae'r calendr digwyddiadau trawiadol wedi ei baratoi ac mae ar gael ar y wefan -Mwy yma..