|
Neges Nadolig
Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn gyffrous iawngyda datblygiadau sylweddol ynglyn a'n cartref newydd. Mae Penseir yr Academi wedi eu penodi ac wedi cynhyrchu cynlluniau eiconig, ond ymarferol gwych a ranwyd gyda chwi eisoes. Mae cynllunio manwl wedi cychwyn ac wedi ei rannu a chi. Bydd ymgynghori yn parhau. Bydd y flwyddyn newydd yn gweld 'rhawiau yn y ddaear' gyda gwaith yn cychwyn ar y ffordd a gwaith ymarferol arall. Rhagwelwn y bydd 2012 yn fwy cyffrous fyth.
Yr ydym hefyd wedi cael cychio gwych eleni gyda phob adran o'r clwb yn cymryd rhan mew gweithgarwchorasio Clwb i rasio allfor, trwy ddigwyddiadau pwysig i fordeithiau cychod modur heb son am lwyddiant Hwylio Ieuenctid a rhaglen gymdeithasol gaeaf. Yn ystod y flwyddyn croesawyd ein harlwywr newydd Mel, sydd wedi ymdrechu i gyfarfod a'n holl anghenion amrywiol gyda llwyddiant arbennig.
Edrychw ymlaen i flwyddyn arbennig yn 2012.
Mae'r ffurflen gais aelodaeth/ adnewyddiad ynghlwn wrth y calendr neu ar y wefan yma.
Cymrwch fantais o'r gostyngiad yr ydym eto yn ei gynnwys, trwy dalu cyn diwedd Ionawr. Yn ychwanegol trwy newidiadau yn rheolaeth aelodaeth, mae'r Clwb yn gallu cynnig arbedion sy'n cael eu hadlewyrchu mewn gostyngiad yn y tal aelodaeth eleni.
Edrychaf ymlaen i'ch gweld yn fuan ac y cewch gychio pleserus ym 2012.
Phil Ranner Morlywydd
ar ran y Pwyllgor Rheoli.
Calendr 2012
Mae Calendr arbennig CHPSC 2012 yn cael ei ddarparu gyda'n cyfarchion, a chyda cefnogaeth ein noddwyr a chyfraniadau gan y tynnwyr lluniau. Y mae ar ei ffordd i chi yn awr. Edrychwch ar y wefan i gael cromlin y llanw. Darllener ymhellach....
Rasio
Mae Rhaglen drafft rasio ar gael ar y wefan - dogfen drafod yw hon a byddai eich sylwadau yn dderbyniol. Anfonwch hwy i
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Darllener ymhellach........
Cynllun Academi
Yr ydym wedi cynnal cyfarfodydd yn y Clwb i ddangos i chi y cynlluniau rhagarweiniol a derbyniwyd gwybodaeth werthfawr gan aelodau sydd wedi ei fwydo i'r penseiri. Gan fod y gwaith yn awr wedi cychwyn ar y cynlluniau manwl gobeithiwn gynnal cyfarfodydd pwllach i gael eich syniadau a manylion pellach. Darparwn rhain yn fuan.
CHIPAC - Christmas Regatta
Cymrodd dros 60 ran ac mae'r canlyniadau ar gael yma. Mwy yma........
CHIPAC - Congratulations
Llongyfarchiadau i Josh a Jake Davies, dau aelod arall o CHIPAC , ar eu llwyddiant diweddar yn ennill lle yn Academi Hwylio Cymru adran 29er. a hefyd o gael eu dewis i garfan cyfnewid Volvo Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol.
'Rydym yn falch o lwyddiant ein hwylwyr ifanc yn adrannau yr Optimist a Topper ac mae llwyddiant yn adran y 29er. yn fwy o glod i Chipac a hefyd i Glwb Hwylio Pwllheli.Sailing Club.
|