|
Cyfarfod Arbenig
Mae yna Gyfarfod Arbennig ar Ddydd Sadwrn 30 Ionawr, 2010, am 10.30 o'r gloch yn Y Clwn, gyda'r bwriad o ystyried a phasio , os gwelir yn briodol, Cynnig bod y Clwb yn mabwysiadu cyfathrebu'n electronig fel y dull diofyn o gyfathrebu rhwng y Clwb a'r aelodau.
|
|
RHAGLEN GYMDEITHASOL 2010
IONAWR - EBRILL
Cyri a Cwis - Sadwrn yma 30 Ionawr
Cyri a Popodums @ £7.50, Cwis i gychwyn tua 9.00
£1 am bob aelod o'r tim, yr elw i CHIPAC
Gwobrau i'r tim buddugol a'r tim gyda'r enw mwyaf gwreiddiol
|
|
Chwefror
· Sad 13 – Cinio Noson Sant Ffolant – Ticedi £15.95*
· Sad 27 – Cinio Noson Gwyl Dewi 2 gwrs – Ticedi £11*
|
|
Mawrth
· Sul 14 – Cinio Sul y Mamau, 2 gwrs £10.95*
· Sad 20 – Noson Gwyl Sant Padrig, pryd 2 gwrs £11* – ac yna cerddoriaeth werin o'r Ynys Werdd gan Chris Hayward a Chyfeillion
Ebrill
· Gwener 2 – Swper Dechrau'r Tymor £7.50 7.00pm a chwis Morwrol i'r Teulu
· Sul 4 – Cinio Sul Pasg ac yna helfa Wyau a chystadleuaeth Boned Pasg i'r Plant (I gychwyn am 3.00pm)
|
|
Sylwch: Os phrynwch chi docynnau o leiaf 4 diwrnod ymlaen llaw, bydd yna disgownt o £1 y pen i'r digwyddiadau yma. Gweler*
A llawer mwy – bydd rhagor o wybodaeth am ein holl weithgareddau ar hysbysfyrddau'r clwb, yn y bar ac ar ein gwefan. Noder y gallai manylion y digwyddiadau hyn orfod newid o dro i dro.
Cadw lle - Bar: 01758 614442
|
|
Rasio Clwb
'Roeddem yn meddwl y byddai'n syniad da i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am rasio yn ystod y flwyddyn.
Mae'r raglen rasio lawn ar gael trwy ddilyn hwn.
'Rydym wedi cynnwys gwybodaeth a dyddiadau am ddigwyddiadau hwylio eraill gan obeithio y bydd hyn o gymorth i benderfynu ar eich rhaglen am 2010.
Cysylltwch a ni gyda'g unrhyw awgrymiadau - gellir anfon y negeseuon i
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Gobeithio y cewch flwyddyn lwyddiannus o hwylio.
|
|
Newyddion Regata Mailspeed
Mae'n bleser gennym gyhoeddi fod Mailspeed Marine wedi cytuno i noddi'r regata yma unwaith eto eleni a fydd yn cael ei chynal gan Glwb Hwylio Pwllheli ar y 1af. - 3ydd o Fai 2010.
Bydd y regata yma gyda cwch bwyllgor yn cychwyn y rasio a bydd amrywiaeth o rasus i blesio pawb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar linc yma.
Bydd Rhybudd o'r Ras ar gael yn fuan.
|
|
Pecyn Rasio 2010
Mae'r holl wybodaeth a fyddwch ei angen ar gyfer hwylio ym Mhwllheli yn awr ar gael ar ein gwefan ac fe ellwch ei ddarganfod trwy ddilyn linc.
Mae'r wybodaeth yn cynnwys siart, rhestr o farciau, rhestr o gyrsiau sefydlog a Cyfarwyddiadau Hwylio 2010.
|
|
Newyddion ISORA
I'r rhai hynny sydd eisiau hwylio alldraethol mae deg ras ISORA i ddewis ohonynt gan gynnwys dosbarth heb spinnaker.
Mae hyn yn cynnwys dwy ras undydd yn cychwyn a gorffen ym Mhwllheli. Pedair Ras ar draws Mor Iwerddon (gyda dwy yn cychwyn ym Mhwllheli).
I ennill y gyfres - mae'n rhaid i gychod gwbwlhau 5 ras allan o 10. RHAID i dair o'r rhain fod ar draws Mor Iwerddon. Bydd pwyntiau am y cyfan o'r gyfres yn cael eu cymryd o'r 5 canlyniad gorau.
Mae Rhaglen Hwylio ISORA 2010, Rhybudd o Ras a Ffurflen Ymuno i gyd ar gael trwy ddilyn y linc o dudalen ISORA ar ein gwefan. Dilyn y linc yma.
|
|
Newyddion IRC
Mae cynllun cymhellol IRC yn darparu 50% o ostyngiad yng nghost Cais Newydd, cychod sydd eisiau ymuno mewn regatas ac mae ar gael i gychod sydd heb ddal Tystysgrif IRC yn y 5 mlynedd flaenorol.
Gellir talu am y tystysgrifau rhatach yma yng Nghlwb Hwylio Pwllheli.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Hysbysfwrdd Swyddogol y Clwb neu gysylltu a
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Mae Blwyddlyfr IRC wedi ei gyhoeddi ac mae copiau ar gael yn ystafell y clwb. Mae copi o'r Blwyddlyfr ar gael ar wefan RORC dilynwch y linc.....
|
|
Gan Gareth Roberts - Rheolwr Digwyddiadau
Hoffwn dynnu eich sylw at ddigwyddiad arbennig iawn Mis Mai yma i blant a phobol ifanc gorllewin Gwynedd!
Mae’n bleser gennyf rannu â chi ein newyddion gwych. Ym Mis Mai 2010 bydd Cwch hwylio ‘Her Cymru’ – sydd wedi amgylchynu’r byd ddwywaith - yn angori ym Marina Hafan y Mor ym Mhwllheli.
Ein gobaith yma yng Nghlwb Hwylio Pwllheli yw ennyn digon o ddiddordeb i allu cynnig cyfle i blant Cymru dreulio amser ar fwrdd y Cwch. Bydd y cwrs tridiau yn cymryd ffurf un diwrnod o hyfforddiant ar y cwch yna mordaith o ddeuddydd yn gwneud defnydd a ymestyn ar yr hyn y bydd y disgyblion wedi ei ddysgu eisoes. Os yw’r tywydd yn caniatáu gallwn ymweld a’r Iwerddon mewn deuddydd!
Cost y cwrs fydd £165 ond mae’r pris yma yn cynnwys y llety a’r bwyd am y cyfnod. Bargen!
Bydd disgwyl i bawb dynnu ei pwysau – codi hwyliau, lliwio’r cwch, mordwyo, coginio a chydweithio gyda criw y cwch. Byddwn yn gobeithio y daw 1 athro(person cyfrifol) o’r ysgol fydd yn cydweithio gyda 2 gwirfoddolwr o’r clwb ac Sgipar proffesiynol y cwch.
Os yw’r Llythyr yma wedi sbarduno awydd ynoch neu os wyddoch am rhywrai fydda’n elwa o’r profiad bythgofiadwy yma yna bydd angen i ni dderbyn blaendal o £50 gan y bobl ifanc (Bl8 +) erbyn diwedd Chwefror .
Os oes ydych am fwy o wybodaeth neu gwestiwn cysylltwch a mi ar 01758613363
Hwyl a Fflag
|
|
Dyma rai cysylltiadau defnyddiol i wefan CHPSC
|
|
Tal Aelodaeth - Ad-daliad
Cofiwch dalu eich tal aelodaeth cyn 31 Ionawr i fanteisio ar yr ad-daliad.
Mae'r ffurflen gais/ adnewyddu aelodaeth ar gael ar trwy ddlyn y linc yma.
|
|
Cysylltiad E-Bost
|
Swyddfa / Office 01758 613343 Fax 01758 612134Bar / Clubroom 01758 614442
|
|
Clwb Hwylio Pwllheli Sailing Club is a Company Limited by Guarantee and is registered in Wales - number 673674.
Registered business address: Hafan, Glan Y Don, Pwllheli, Gwynedd, LL535YT
|
|
Y mae’r neges hon at ddefnydd yr unigolyn neu’r corff y’i cyfeiriwyd ato, a gall gynnwys gwybodaeth breifat, cyfrinachol na ddylid ei datgelu.
|
|
This message is intended only for the use of the individual or entity to which it is addressed and may contain information that is privileged, confidential and exempt from disclosure.
|
|