| Cyfarfod Arbennig |
| SATURDAY, 19 DECEMBER 2009 00:00 |
|
Mae'r ddogfen hon yn rhoi rhybudd am Gyfarfod Arbennig sy'n caelei alw ar Ddydd Sadwrn 30 Ionawr, 2010, am 10.30 o'r gloch yn Y Clwn, gyda'r bwriad o ystyried a phasio , os gwelir yn briodol, Cynnig bod y Clwb yn mabwysiadu cyfathrebu'n electronig fel y dull diofyn o gyfathrebu rhwng y Clwb a'r aelodau.
___________________________________________________________
Mae'r wybodaeth gefndirol fel a ganlyn:-
Mae'r Clwb yn awyddus i fanteisio ar ddarpariaeth Deddf Cwmnïau 2006, sy'n caniatáu i'r Clwb gyfathrebu'n "swyddogol" gyda'r aelodau drwy ddull electronig a thrwy'r wefan.
I'r diben hwn, bydd cyfarfod arbennig yn cael ei alw i drafod cynnig sy'n ceisio cael cymeradwyaeth mai'r dull diofyn (default) o gyfathrebu fydd yn elecctronig neu drwy'r wefan..
Fodd bynnag, gall unigolion gadw'r hawl i dderbyn cyfathebiaeth ar bapur os dymunir a dewisir hynny.
Os caiff y cynnig ei basio, yna caiff pob aelod rybudd ar bapur o'r dull diofyn o gyfathrebu'n electronig, yn gwahodd aelodau i gadarnhau eu dymuniad i dderbyn rhybuddion ar babpur. Bydd "dim ymateb" o fewn 28 diwrnod yn cael ei drin fel cadarnhad positif.
Un mantais fuan fydd gostyngiad sylweddol mewn costau argraffu a phostio copïau o'r cyfrifon a chostau postio deunydd i'r aelodau.
Richard Wray
Ysgrifennydd Mygedol / Honorary Secretary
Dyddiad / Date 19 Rhagfyr 2009
|

