'Roedd y cyflwyniadau'n digwydd yn ystod Parti'r Regeta, a oedd yn cynnwys cyflwyniad Cwpan y Brenin Cystenin a'r Regeta Geltaidd. Canlyniadau llawn a manylion ar dudalen Rasio y wefan.
Carem ddiolch i'r holl noddwyr a gyfrannodd wobrau ac i'r gwirfoddolwyr a drefnodd y gweithgareddau a'r chwaraeon ar y lan. Casglwyd £470 a'i gyflwyno i Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru, Elusen CLIC Sargent a CHIPAC.
Y Gali- Oherwydd profedigaeth deuluol mae cyfyngiad ar fwydlen y gali am yr wythnos nesaf.
Mae dewis cyfyngol o'r fwydlen arferol ar gael yn ystod yr oriau agor arferol 1800 i 2100 awr (ond dim ond tan 1930 awr ar Nos Sadwrn - gweler Parti isod)
Mae gwasanaeth brecwast ar gael dydd Gwener yma (0830 tan 1000 awr) hyd y rhybudd nesaf.
Mae'r fwydlen canol dydd arferol ar gael o 1200 hyd 1400 awr
Mae yna Barti Nos Sadwrn - Mae Stephen Tudor (yr hen greadur) yn HANNER CANT oed ac mae croeso i'w barti penblwydd yn y clwb o 1930 awr - bydd amrywiaeth y gyris gyda'r ychwanegiadau arferol. Trefnwyd Disgo. Mae croeso i bawb.
Cyris amrywiol gyda'r ychwanegiadau am £7.50, ond heno o 1930 am bris gostyngol o £2.50 i'r 60 cwsmer cyntaf, y cyntaf i'r felin caiff gyri. Bwydlen heb gyri hefyd ar gael
Digwyddiadau a Phencampwriaethau - Bu'r Toppers Cenedlaethol yr wythnos diwethaf yn llwyddiant mawr gyda 372 o gystadleuwyr a 91 yn cynorthwyo ar y dwr. Ymdrech ragorol gan bawb.yma.
Cafwyd ymweliad gan Laura McAllister, Chwaraeon Cymru yn ystod Pencampwriaethau Topper gelir darllen am yr ymweliad
Mae ein tim rheoli rasio hyn yn Weymouth yr wythnos yma yn cynorthwyo gyda digwyddiad Sail4Gold eventrhagbrawf ar gyfer Hwylio Olympaidd 2012. Gellwch ddilyn y gweithrediadau ar PSC Event Blog
Y Digwyddiad nesaf yw'r 29ers a'r 49er yr wythnos nesaf.
Os ydych yn barod i gynorthwyo ar y dwr neu ar y lan cysylltwch a Gareth.
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Cychwyr Modur -Mae yna daith dros nos i Aberystwyth y penwythnos yma, yn gadael ar Sadwrn 14eg a dychwelyd Sul 15ed. (gan ddibynnu ar y tywydd). Eglurhad yn y clwb am 8.30 nos Wener. Unrhyw rai a diddordeb i arwyddo ar yr hysbysfwrdd neu ebostio neu ffonio (07860 458260) cyn hyn gan ein bod angen niferoedd i drefnu angorfeydd. Manylion llawn yma.
Rasio y Penwythnos yma - Regeta Abersoch rasio ar gyfer cychod Cel. o 1400awr.
Dun Laoghaire Regatta 2011 - Cyhoeddwyd y dyddiadau 7ed - 10ed Gorffennaf 2011 - manylion yma
Hwylio Hwylus