|
 |
Newyddion Rasio ~ Racing Update ~
|
| Mae'r ddogfen yma ar gael yn Gymraeg. |
This newsletter is also available in Welsh. |
Cyfarfod Rasio Chwefror 4
Bwriadwn gynnal Pwyllgor Rasio dydd Sadwrn, 4 Chwefror am 13.00awr. i drafod Rhaglen Hwylio 2012.
Mae nifer o gychod newydd yn llynges CHPSC y tymor yma gyda thair J109 wedi eu cadarnhau, Elan 350 newydd ac awgrym o gychod eraill i ddilyn- yn ychwanegol i'r llynges bresennol.
Mae'n argoeli i fod y dymor cystadleuol ac mae'n bwysig ein bod yn cynnig yr hyn mae'n haelodau ei angen.
Mae copi drafft o raglen ar gael yma - dogfen drafod yw hon gan edrych arni fel man cychwyn yn unig.
Materion eraill i'w trafod fydd ethol Swyddogion Rasio, Nawdd, Materion dosbarthiad (IRC-PYS), Cyrsiau Rasio, Marciau, ISORA, Gwobreuon, Ffioedd ymuno,Cymdeithasol ac wedi rasio, rhestri criwiau sydd ar gael.
Anelwn at ddarparu rasio ar gyfer pob lefel o allu gan gynnwys cychwynwyr tro cyntaf gydarasio o gwmpas y caniau, rasio hir o gwmpas y bae, rasio rigeta gyda Cwch Pwyllgor yn cychwyn - rhywbeth i bawb mewn ffordd gyfeillgar heb fod yn gymhleth ond rhaid i chwi ddweud beth ydych am i ni drefnu.
Rhowch wybod am unrhyw beth arall er mwyn paratoi agenda.
Rhowch wybod am hyn i unrhyw un sydd a diddordeb mewn rasio, aelodau neu heb fod yn aelodau,capteiniaid a chriwac unrhyw rai heb eto a lle ar gwch rasio - gall hyn fod yn gyfle i gapteiniaid gyfarfod a chriw. Croeso i bawb.
Cynhelir y cyfarfod yn yr ystafell bwyllgor ar lawr cyntad CHPSC gan gychwyn am 13.00 awr. Gobeithiwn gwbwlhau'r rhan ffurfiol i alluogi unrhyw rai sydd am weld y rygbi wneud hynny ( Ffrainc v Eidal am15.30 awr a Yr Alban v Lloegr am 17.00awr) Bydd digon o amser i gymharu nodiadau a strategaethau ac i drafod cychod a rasio yn gyffredinol.
Os na alwch fod yn bresennolymatebwch i'r E-Bost
Hwyl
Stephen Tudor Ysg Mygedol.
If you no longer wish to receive these newsletters: {unsubscribe}unsubscribe{/unsubscribe} |
|
E-mail disclaimer
|
|