|
Hi
Rasio Penwythnos yma - Cwpan Brenin Constantine - ras hir a hefyd ras ISORA Pwllheli i Bwllheli.
Mae mwy o wybodaeth a rhybudd ras yma.
Mae rhagolygon am dywydd braf gydag awyr glas, gwynt caredig ysgafn a rasio gwych.
Mae barbeciw nos Wener yn edrych yn dda (1900 i 2100) a bwyd arferol nos Sadwrn - medrwn argymell y cig eidion ac mae'r 'mixed grill' yn arbennig!
'Morning Cloud II' y diweddar Edward Heath - Ymweliad a Pwllheli - lluniau a cysylltiad i fideo yn dangos ei hail adeiladu i'w gweld yma.
Wythnos Cork - Mae ' Impetuous' wedi cael cychwyn da i'w whythnos yn Cork. Wedi ei gosod yn ail wedi ei hail ddiwrnod o rasio yn Nosbarth 1.
Pob lwc hefyd i 'Xpletive','Mojito' a 'Juke Box'.
Cysylltiad i wefan Wythnos Corki wybodaeth a chanlyniadau yma.
Digwyddiadau a Phencampwriaethau - Dim ond eich hatgoffa yn sydyn fod gennym Bencampwriaethau Prydain y Finn Nationals ar 22-25 Gorffennaf 2010 a Pencampwriaethau Topper Prydeinig o'r 1af i'r 6ed. Awst.
Os hoffech gynorthwyo - ar y dwr neu ar y lan cysylltwch a Gareth.
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Regetas yr Haf - Regeta Geltaidd ar 31 Gorffennaf - 1 Awst a Regeta Pwllheli ar y 7ed Awst gyda parti mawr i ddilyn. Regeta Abersoch ar 14 Awst.
Hwylio Da
Stephen
|