|
Mae Clwb Hwylio Pwllheli wedi bod yn trefnu rasio o'r safon uchaf i'r clwb ers nifer o flynyddoedd. 'Rydym yn ffodus fod y rasio yn digwydd ar ddyfroedd sydd gyda'r gorau yng Ngwledydd Prydain ac mae hyn yn gwneud trefnu rasio gymaint yn haws. Bydd y rhai hynny ohonoch sydd wedi cymryd rhan yn gwybod fod gennym amodau sydd bron yn berffaith, heb ddim llongau masnachol, dim llanw cryf a gwyntoedd cyson, 'glan' o'r de orllewin. Hyn i gyd mewn bae gyda golygfeydd godidog, Penrhyn Llyn i'r gogledd, Eryri i'r gogledd ddwyrain a mynyddoedd canolbarth Cymru i'r dwyrain a'r de ddwyrain.
Yr ydym, bob blwyddyn, wedi gwrando ar eich sylwadau ac fel Clwb wedi ymdrechu i ddarparu profiadau rasio gorau posib. Mae rhaglen hwylio 2009 i'w gweld ar Galendr y Clwb ar y safle we yma. Yr ydym eto wedi darparu ystod eang o rasio, gyda rhywbeth i bawb. Rasio I ac O'r Gwynt, O Gwmpas y Caniau,Rasus Hir yn y Bae a Regata lawn gyda Cwch Pwyllgor yn eu cychwyn. Yr ydym yn gallu darparu ar gyfer hwylwyr o bob gallu, o'r rhai hynny sy'n awyddus i ennill pencampwriaethau Cenedlaethol i'r rhai sy'n hapus i rasio gyda partner, a mwynhau diwrnod da o hwylio. 'Rydym yn darparu rasio Dosbarth ar gyfer IRC, PYS, Sportsboat a Dosbarth Hwyliau Gwyn.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf 'rydym wedi datblygu pont gychwyn newydd gan ddefnyddio'r dechnoleg rheoli rasio cyfrifiadurol ddiweddaraf.
'Rydym yn ffodus i gael Robin Evans fel ein Prif Swyddog Rasio ac y mae ef wedi manwl gyweirio canlyniadau'r rasus, gan ddefnyddio 'Sailwave', sy'n darparu canlyniadau dros dro yn gyflym wedi i'r cwch olaf orffen.
Yr ydym hefyd wedi rhestru eich sylwadau ynglyn a chyrsiau sefydlog ac er fod y mwyafrif yn credu eu bod yn ardderchog, yr ydym wedi gwneud gwelliannau pellach. Bydd y gyfres newydd o gyrsiau cynhyrfus 2009 yn cael eu dangos ar safle'r we yn fuan. Dylid cael gwared o hen siartiau a chardiau cyrsiau 2007/8.
Gwnaed gwelliannau pellach i'r Cyfarwyddiadau Hwylio gyda Siarter Rasio RYA a Rheolau Rasio Hwylio ISAF 2009-2012. Ewch i dudalen safle'r we i gael Cyfarwyddiadau Hwylio 2009, gan daflu ymaith unrhyw hen gopiau i arbed dryswch.
I'r rhai hynny ohonoch sydd wedi profi rasio, croeso'n ol i dymor arall o rasio pleserus ac i'r rhai hynny sydd heb erioed ei brofio , wyddoch chi ddim beth ydych wedi ei fethu. Gwelwn chi ar y llinell gychwyn.
Gobeithiwn yn bydd 2009 yn dymor bendigedig i bawb.
|