RS400 UK Nationals

 

Dosbarth  :-       RS400

Dyddiad    :-       16-19/09/2010

Hwylio i bwy:-    Oedolion  

Manylion   :-       O ganlyniad i brofiad maith Phil Morrison, ni cheir gwell cyfuniad o gyflymder a thrafod hwylus ar unrhyw gwch hwylio. Mae'r RS400 yn ddi-lychwin ac yn bleser i'w hwylio.

Mae'r cynllun ergonomig yn sicrhau heicio cyffyrddus. Gallwch osod y straps traed i'ch siwtio ac mae lled y cwch (6'6") yn caniatáu i'r ddau hwyliwr lifro cymaint a'i gilydd, felly mae'r RS400 yn ddewis poblogaidd i dimau cymysg.

Mae estyll llawn yn y brif hwyl a'r jib yn cadw eu siâp, lleihau fflogio ac ymestyn eu hoes. Mae cyfuniad perffaith o fast a phrif hwyl yn rhoi rheolaeth o fath newydd i chi. Hyn, a'r corff llawn, sy'n golygu y cewch chi ddewis mor amrywiol ym mhwysau'r criw.

Mae'r sbinacr anghymesur yn hawdd i'w drafod, yn gyflym, yn sbort ac yn bur dactegol. Gellir cyfeirio'r bolsbryd atwynt, gan roi cyflymder anhygoel i'r RS400 ar bron bob ongl dan y gwynt.

Disgwylir 60 – 70 cwch yn y pencampwriaethau cenedlaethol

Hyd 4.5m – Trawst 2.0m – Arwynebedd Hwyliau 14.8m sg

 



RS400 N of R available soon

Notice of race available soon