|
Lleolir Clwb Hwylio Pwllheli yng nghyfadeilad marina, Hafan Pwllheli.
Mae’r adeilad o fewn cyfadeilad y marina tua 150 llath o'r pontydd cychod. Ceir cyfleusterau arlwyaeth lawn, ystafelloedd newid a chawodydd ac ystafelloedd cyfarfod a phrotest. Y mae yna ystafell bar sylweddol sy'n agor i deras gyda golygfeydd o’r Hafan. Mae modd ychwanegu pabell fawr at yr adeilad i roi rhagor o gyfleusterau pan mae angen.
 Mae’r dyfroedd hwylio o gwmpas Pwllheli gyda’r gorau yng Ngwledydd Prydain. Ym Mae Ceredigion mae grym y llanw yn rhesymol y gwyntoedd yn gymhedrol a’r golygfeydd yn odidog. Mae’r Wyddfa a mynyddoedd Cymru yn gosod cefndir gwych ar gyfer unrhyw weithgaredd dŵr.
Mae’r Digwyddiadau Hwylio a gynhaliwyd ym Mae Ceredigion yn cynnwys Cystadlaethau Cenedlaethol National BT, Optimist, Firefly, Hornet, GP14, Topper, Scorpion, Osprey a Flying 15, Pencampwriaeth Ewropeaidd 1720, Ewropeaidd a Byd J24 a Byd Laser 2 a 1C45, Cwpan Un Tunnell a Phencampwriaeth RS.
Fel canolfan i Fordeithio mae Pwllheli yn cynnig harbwr diogel, sy’n hygyrch ym mhob tywydd a phob llanw. Gellir cyrraedd arfordir Gorllewinol Iwerddon mewn llai na 12 awr o hwylio a gellir cyrraedd Abersoch, Porthmadog, Y Bermo, Aberdyfi, Aberystwyth a Chei Newydd o fewn ychydig o oriau.
Mae gan y clwb adran rasio alldraethol mawr a phrysur. Mae Rasio Clwb yn digwydd o’r Pasg tan ddiwedd Tachwedd. Mae yna lynges fywiog o Sportboats.
Yn ychwanegol y mae yna Regatas lleol a’r Regata Geltaidd enwog, sy’n denu cychod o’r Iwerddon a’r Gogledd Orllewin.
Mae marina’r Hafan a’r ardal gysylltiedig yn darparu’r holl gyfleusterau fydd ei angen ar yr hwyliwr neu berchennog cwch peiriant. Mae Pwllheli a’r ardal gyfagos yn ardal gwyliau poblogaidd ac felly mae ystod eang o lefydd aros ar gael. Cysylltwch â’r Bwrdd Croeso ar 01758 613000
Mae’r Clwb yn awyddus i ddenu aelodau newydd a chroesawu Cystadlaethau Agored. Am wybodaeth bellach cysylltwch a’r Swyddog Gweinyddol ar 01758 613343 neu E-bostiwch ar
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Ffurflen Gais / Adnewyddu Aelodaeth
|