Clwb Hwylio Ieuenctid Pwllheli A'r Cylch

Mae adran iau Clwb Hwylio Pwllheli,CHIPAC,wedi tyfu yn sylweddol yn y blynyddoedd diweddar ac wedi cael ei wobrwyo am ei ymdrechion, mae Clwb Hwylio Pwllheli Sailing Club hefyd wedi derbyn y fraint o gael ei enwi fel Clwb Pencampwr Volvo ynogystal a bod yn ganolfan hyfforddiant "On Board" y Gymdeithas Hwylio Frenhinol.

Erbyn hyn mae gan CHIPAC wyth hyfforddwr hwylio,chwe hyfforddwr cychod pwer a thim cryf o wirfoddolwyr gyda cymhwysterau

cychod pwer a chychod achub.

Ar hyn o bryd mae 49 aelod yn CHIPAC,yn amrywio o ddysgwyr a ddechreuodd hwylio yr haf diwethaf i'r hwylwyr profiadol sydd wedi ei dewis i amryw garfan Cymreig a Phrydeinig.

Rho CHIPAC y cyfle i ieuenctid lleol ddysgu hwylio, gyda'r dewis o gario ymlaen i safonau clwb hwylio, neu yr optiwn o'r llwybr i hwylio yn gystadleuol mewn digwyddiadau dosbarth iau Cenedlaethol a'r gobaith o gael ei dewis i garfan Cymru neu Prydain.

Os oes unrhyw un yn hoffi ymuno neu helpu gyda hwylio iau,cysylltwch a Gwyndaf Hughes neu Jane Butterworth.

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


CalonHwylioCymru